Mae gwyddoniaeth a thechnoleg yn boblogaidd iawn gyda phlant mewn ysgol wrth iddynt hwy yn cael y cyfle i wneud arbrofion ymarferol. Mae Donaldson (2015) yn tynnu sylw at y pwysigrwydd o wyddoniaeth and technoleg fel rhan o’r cwricwlwm i’r plant. Felly wnaeth Donaldson (2015) gwneud gwyddoniaeth a thechnoleg un o ei chwech meysydd dysgu a phrofiad er mwyn i’r plant cael y sgiliau hanfodol ar gyfer ei dyfodol. Wnaeth Donaldson (2015) ddweud yn ei chwricwlwm newydd fydd gwyddoniaeth a thechnoleg yn rhoi’r cyfle i’r plant I “learn to generate and test ideas, gather evidence, make observations, carry out practical investigations, and communicate with others,” (p50).
Wrth i wyddoniaeth a thechnoleg cael ei ddysgu yn gyson o fewn ysgol gynradd mae’n bwysig iawn bod y plant yn ddeall gwyddoniaeth, ond hefyd yn cael hwyl. Felly mae ysgolion yn gwneud arbrofion hwyliog er mwyn denu ei sylw. Wnaethon ni cael tro o wneud gwahanol arbrofion gallwn ni wneud gydag ein disgyblion. Un enghraifft yw ‘Mentos and Coke’, hynny yw dysgu am yr adwaith rhwng y ddau gemegolyn. Mae gan y Mentos byllau bach sydd yn gweithredu fel safleoedd cnewyllol, sydd yn gadael i swigod carbon deuocsid ffurfio. Wrth I’r mentos cwrdd â’r coke mae swigod yn ffurfio ar hyd wyneb y mentos ac yna'n codi'n gyflym yn yr hylif ac o ganlyniad yn saethu allan o’r botel.
Wnaeth y brifysgol hefyd rhedeg taith i Techniquest i ddarganfod sut maen nhw’n dysgu'r plant gwyddoniaeth a thechnoleg mewn ffordd hwyl i’r plant. Cawsom ni'r cyfle i weld sut maen nhw yn rhoi sioe arno i’r plant wrth iddyn nhw ddysgu. Mae Techniquest yn cynnig rhaglenni ac arddangosion gwyddoniaeth am ddim. Mae eu staff yn arbenigwyr blaenllaw mewn cyfathrebu gwyddoniaeth. Mae Techniquest yn cynnig profiadau rhyngweithiol sy'n hygyrch i bawb. Mae’r lluniau yn dangos y sioe wnaethon ni gwylio amdano gynhesu byd eang sydd yn apelio at blant ond hefyd yn eu haddysgu am bwysigrwydd gofalu am ein planed. Bydd techniquest yn daith ysgol effeithiol i gynnal i’r plant oherwydd mae’r plant yn dysgu amdano wyddoniaeth wrth gael hwyl. Mae hyn yn gweithio gyda’r cwricwlwm newydd Donaldson (2015) sydd yn hysbysu'r pwysigrwydd o ddisgyblion cael profiadau bywyd dydd i ddydd. Mae’r llywodraeth yn annog asiantaethau allanol i weithio gydag ysgolion er mwyn iddyn nhw gael mynediad i’r adnoddau. Mae'r lluniau canlynol yn dangos y sioe wnaethon ni gwylio a sut mae'r gweithwyr yn arddangos gwyddoniaeth i'r plant.
Er bod Donaldson (2015) yn gwthio’r pwysigrwydd o’r disgyblion cael ei addysgu gwyddoniaeth a thechnoleg nid yw pawb yn cytuno. Gyda 8 mewn 10 athrawon yn credu fod mathemateg and Saesneg yn bwysig iawn i gael ei ddysgu. Ond ddim ond 3 mewn 10 o athrawon yn credu fod gwyddoniaeth yn bwnc pwysig i ddysgu’r disgyblion, mae hyn yn awgrymu fod nad yw llawer o bobl yn argyhoeddedig fod gwyddoniaeth yn flaenoriaeth mewn addysg gynradd, (Wellcome.ac.uk, 2019). Er nad yw pob athro yn cytuno fod gwyddoniaeth yn wers bwysig mae dal rhaid i’r athrawon ei ddysgu. Felly mae rhaid iddyn nhw ddenu sylw ei disgyblion wrth wneud y gwersi yn hwyl. “It is urgent to renew, expand and diversify the basic education for all in the field of science, emphasizing the skills and scientific and technological knowledge to participate meaningfully in the society of the future” (UNESCO, 1999).
Fel enghraifft gall athrawon ddangos sut mae anifeiliaid yn tyfu a newydd dros amser. Rydw I’n cofio yn ysgol wnaethon ni cael lindys yn y dosbarth wrth i ni ddysgu sut maen nhw yn tyfu i mewn i byli pala. Ond os dywedwyd wrthym y byddwn ni wedi anghofio, ond wrth gael nhw yn ein dosbarth a'u gwylio nhw yn datblygu i mewn i byli pala roedd yn ei gwneud yn fwy diddorol a chofiadwy i ni. Wrth ddysgu amdano’r cylchoedd bywyd cawsom ni'r cyfle i ddysgu a deal sut i ddelio â marwolaeth, genedigaethau, a newidiadau a thwf bob dydd o'u cwmpas.
Wnaeth Cynhaliodd Mindset Scholars Network (2015) astudiaeth ar os yw plant yn cyflawni'n well mewn gwyddoniaeth os yw'r gwersi yn cael eu gwneud yn fwy o hwyl ac yn berthnasol i'w bywydau. Canfu'r astudiaeth fod gwaith y plant wedi gwella pan roedd y gwaith yn berthnasol ac yn ddiddorol iddyn nhw. Yna rhoddir y cyfle i'r plant ragfynegi beth fydd yn digwydd yn eu barn nhw, sy'n eu galluogi iddyn nhw feddwl yn feirniadol ac yn rhesymegol am y canlyniad.
Gall plant dysgu cael ei bersonoli trwy ddefnyddio technoleg, fel enghraifft gall y plant defnyddio Ipads i rannu gyda'r dosbarth i ddarlunio cysyniadau o fioleg gyda’r dosbarth. Mae’r plant yn gallu rhannu ei gwaith ar fwrdd gwyn digidol a rhannu ei syniadau a'i gwaith i’r dosbarth. Mae hyn yn rhoi hyder iddyn nhw ddangos o flaen y dosbarth. Mae’r ipad yn offeryn sydd yn helpu'r athrawon i wella addysg y plant, oherwydd mae’r plant yn dysgu sgiliau newydd sydd yn gwella ei sgiliau digidol.
“Technology is just a tool. In terms of getting the kids working together and motivating them, the teacher is most important.” - Bill Gates (2018)
Rhestr cyfeirio
Brozek, J.M., (2000). Declaration on Science and the Use of Scientific Knowledge. EUROPEAN PSYCHOLOGIST, 5(1), pp.66-71.
Donaldson, G., (2015). Successful futures: Independent review of curriculum and assessment arrangements in Wales. Welsh Government.
Mindset Scholars Network (2015) Making Science Relevant Raises Engagement and Grades among Students at Risk for Low Achievement. Making Science Relevant Raises Engagement and Grades, 1-2
The Telegraph. (2019). Bill Gates quotes: words of wisdom from the Microsoft mogul. [online] Available at: https://www.telegraph.co.uk/technology/0/bill-gates-quotes-words-wisdom-microsoft-mogul/ [Accessed 4 Feb. 2019].
Wellcome.ac.uk. (2019). Science 'not a priority' for primary schools | Wellcome. [online] Available at: https://wellcome.ac.uk/press-release/science-not-priority-primary-schools [Accessed 3 Mar. 2019].
Comments
Post a Comment