Yn y blog byddwn yn trafod beth yw trawsgwricwlaidd a sut
mae’n cael ei defnyddio o fewn gwersi yn ysgol gynradd. Byddwn yn trafod rhai
syniadau gall athrawon ei defnyddio i gael gwersi sydd yn cynnwys
gweithgareddau traws cwricwlaidd. Yn fy marn i rwy’n credu fod gwersi
trawsgwricwlaidd yn ffordd effeithiol o ddysgu plant sgiliau hanfodol i baratoi
nhw ar gyfer y dyfodol. Mae Barnes (2015) yn disgrifio gwersi traws cwricwlaidd
fel y ‘skills, knowledge and attitudes of a number of different disciplines are
applied to a single experience, problem, question, theme or idea’ (Barnes, 2015
pp.11).
Mae Donaldson (2015) yn dod a trawsgwricwlaidd newydd i mewn i’r cwricwlwm er mwyn i’r ymarferwyr fod yn ymwybodol o’r pwysigrwydd o ddod a chymhwysedd digidol i mewn i wersi. Mae cymhwysedd digidol wedi cael ei blaenoriaethu fel un o’r trawsgwricwlaidd oherwydd mae TGCh yn fwyafrif y swyddi heddiw.
Gall athrawon ddod â'r pynciau traws-cwricwlwm i mewn i'r chwe maes dysgu fel y cynigiwyd gan Donaldson (2015) yn ei adroddiad 'successful futures'. Mae’r ymarferwyr yn dewis un trawsgwricwlaidd sydd yn gallu cael defnyddio o fewn llawer o bynciau er mwyn paratoi ar gyfer gwersi. Mae Rowley (2009) yn cefnogi hyn wrth ddweud fod dysgu trawsgwricwlaidd y dull fwyaf effeithio i ddefnyddio yn ysgolion dros y deg blynedd diwethaf. Mae Power (2002) yn cytuno gyda Donaldson (2015) yn gwneud trawsgwricwlaidd yn benodol o fewn y cwricwlwm wrth ddweud fod ‘Schools need to embrace cross curricular learning and move away from reform that positions subjects in ways that hark back to some imagined past, rather than forwards to more globalised times’ (Power, 2002, p. 103).
Rwy’n credu fod dysgu STEM yn syniad da ac yn debyg iawn i
ddysgu trawsgwricwlaidd wrth iddo blethu gwahanol bynciau gyda’i gilydd fel mae
Donlaldson (2015) eisiau o’r cwricwlwm newydd. Mae sgiliau datrys problemau ac
arloesi yn gysylltiedig gyda pheirianneg, felly bydd y system STEM yn effeithio
i wella sgiliau’r disgyblion. (Lichtenberg, Woock, & Wright, 2008). Ond
gall y system STEM fod yn un dimensiwn sydd ddim yn ystyried y wahanol
ffactorau sydd hefyd yn effeithio ar ddatblygiad y disgybl.
Enghraifft arall o wersi trawsgwricwlaidd yw defnyddio
digwyddiadau hanesyddol fel rhyfel byd neu 9/11 a chroesi gwersi Saesneg neu Ddrama i mewn gyda hanes. Gall y plant ddysgu amdano’r digwyddiadau, ac yna
defnyddio ei sgiliau llenyddiaeth i ysgrifennu sgript ar gyfer teulu o fewn y
rhyfel byd a sut wnaethon nhw ymdopi gyda’r rhyfel. Yna gall y disgyblion wella
ei sgiliau ddrama wrth arddangos drama i weddill y dosbarth. Yn fy marn i rwy’n
credu bydd hyn yn effeithiol o fewn gwersi a bydd y disgyblion yn mwynhau dysgu
amdano.
Mae Donaldson (2015) yn dod a trawsgwricwlaidd newydd i mewn i’r cwricwlwm er mwyn i’r ymarferwyr fod yn ymwybodol o’r pwysigrwydd o ddod a chymhwysedd digidol i mewn i wersi. Mae cymhwysedd digidol wedi cael ei blaenoriaethu fel un o’r trawsgwricwlaidd oherwydd mae TGCh yn fwyafrif y swyddi heddiw.
Gall athrawon ddod â'r pynciau traws-cwricwlwm i mewn i'r chwe maes dysgu fel y cynigiwyd gan Donaldson (2015) yn ei adroddiad 'successful futures'. Mae’r ymarferwyr yn dewis un trawsgwricwlaidd sydd yn gallu cael defnyddio o fewn llawer o bynciau er mwyn paratoi ar gyfer gwersi. Mae Rowley (2009) yn cefnogi hyn wrth ddweud fod dysgu trawsgwricwlaidd y dull fwyaf effeithio i ddefnyddio yn ysgolion dros y deg blynedd diwethaf. Mae Power (2002) yn cytuno gyda Donaldson (2015) yn gwneud trawsgwricwlaidd yn benodol o fewn y cwricwlwm wrth ddweud fod ‘Schools need to embrace cross curricular learning and move away from reform that positions subjects in ways that hark back to some imagined past, rather than forwards to more globalised times’ (Power, 2002, p. 103).
Enghraifft o weithgareddau trawsgwricwlaidd wnaethon ni
trafod yn ein seminar roedd ‘garage band’. Cawson ni'r cyfle i ddefnyddio’r app a chreu alaw ei hun. Gwrandawa ar y clip canlynol i glywed fy nghlip wnes i
greu, roedd yr app yn hawdd defnyddio ac mae unrhyw un yn gallu defnyddio, does
dim ots os nad ysych yn gallu chwarae offeryn.
Mae’r defnydd o’r app yn galluogi i ymarferwyr gyraedd
targedau traws-gwricwlaidd o’r cwricwlwm wrth ddefnyddio cymhwysedd digidol. Gallwn weld sut fydd ‘garage
band’ yn effeithio o fewn dosbarth oherwydd mae’r plant yn cael hwyl wrth
ddefnyddio ei dychymig i fod yn greadigol gan greu alaw ei hun. Mae’r defnydd
o’r app hefyd yn darparu i bob disgybl fod yn gyfartal oherwydd hyd yn oed os
oes ganddyn nhw gradd pedair mewn piano, nid yw'n golygu bydd y plentyn yn
gwybod sut i weithio’r app. Er bod yn cydgysylltu pynciau fel mathemateg,
cerddoriaeth a chymhwysedd digidol, gall athrawon hefyd gynnwys astudiaethau
crefyddol ac yn gwneud e’n thema ar gyfer y tymor. Gallant nhw wneud hyn trwy
ymchwilio i mewn i ddiwylliannau gwahanol fel enghraifft Indiaid. Byddwn nhw yn
cael llawer o wersi yn dysgu amadano ei diwylliant, crefydd a'i ffordd o
fyw. Yna gallwant nhw wrando ar y gerddoriaeth mae indiaidd yn mwynhau, ac yna
cael tasg o fewn grwpiau i greu alaw sydd yn synau fel cerddoriaeth indiaidd
wrth ddefnyddio ‘garage band’. Ond mae rhai anfanteision wrth ddefnyddio ‘garage
band’. Mae’r Ipads yn gostus iawn i’r ysgol felly na fydd pob ysgol yn gallu ei
fforddio, hefyd bydd rhaid i’r ysgol talu am hyfforddiant i athrawon dysgu sut i ddefnyddio’r app. Mae’n gallu cymryd tipyn o amser i ddysgu'r plant sut i defnyddio’r app, ac effallai bydd rhai plant yn mynd o’r app a chwarae gemau ar
yr ipad felly gall hyn achosi problemau. Mae Barnes (2012) yn ddweud fod yn
anodd i athrawon bod yn ymwybodol o gynnydd y plant wrth ddysgu yn drawsgwricwlaidd
oherwydd mae rhaid iddyn nhw ystyried mwyn na dau bwnc. Ond rwy’n credu mae
‘garage band’ yn ffordd effeithio o ddod a wahanol pynciau gyda’i gilydd.
Mae strategaeth addysgu STEM sydd yn sefyll am ‘Science,
Technology, Engineering, a Mathamatics’ yn dysgu’r pedwar pwnc gyda’i gilydd yn
lle ddysgu yn unigol. Gallwn gysylltu'r pedwar pwnc hwn gan fod pob pwnc yn
cael ei ddefnyddio ar yr un pryd wrth ganolbwyntio ar wyddoniaeth, er
enghraifft. Wrth ddysgu gwyddoniaeth er enghraifft bydd y tri phwnc eraill yn
rhyngweithio gyda gwyddoniaeth ac yn ddefnyddiol i'r disgyblion. Mae’r fideo
canlynol yn rhoi fwy dyfnder ar STEM.
Rwy’n credu fod dysgu STEM yn syniad da ac yn debyg iawn i
ddysgu trawsgwricwlaidd wrth iddo blethu gwahanol bynciau gyda’i gilydd fel mae
Donlaldson (2015) eisiau o’r cwricwlwm newydd. Mae sgiliau datrys problemau ac
arloesi yn gysylltiedig gyda pheirianneg, felly bydd y system STEM yn effeithio
i wella sgiliau’r disgyblion. (Lichtenberg, Woock, & Wright, 2008). Ond
gall y system STEM fod yn un dimensiwn sydd ddim yn ystyried y wahanol
ffactorau sydd hefyd yn effeithio ar ddatblygiad y disgybl.
I grynhoi mae’r blog wedi trafod gwahanol syniadau gall
athrawon defnyddio i ddod a trawsgwricwlaidd i mewn i wersi er mwyn cwrdd â cwricwlwm newydd Donaldson (2015). Mae Barnes (2011) yn cytuno gyda dysgu
traws-gwricwlaidd ac yn ddweud dyle ymagweddau
traws-gwricwlaidd ddod ac amrywiaeth o mewn addysgu. Mae’r
blog hefyd yn cynnwys fy mhrofiad o gael gwers drawsgwriclwaidd a sut mae’n
effeithiol ar gyfer ddatblygiad disgyblion. Trwy ymchwilio i mewn i wersi
trawsgwricwlaidd gallwn weld ei fod yn rhoi sgiliau angenrheidiol i
ddisgyblion lwyddo yn y dyfodol.
Rhestr cyfeirio
·
Barnes, J. (2011). Cross-curricular learning
3-14 (2nd ed.). Los Angeles, [Calif.] ; London: SAGE.
· Barnes,
J., (2015). Cross-curricular learning 3-14. Sage.
· Barnes, J., (2015). Cross-curricular learning 3-14. Sage.
· Bybee, R.W., (2010). Advancing STEM education: A 2020 vision. Technology
and Engineering Teacher, 70(1), p.30.
· Kerry, T. (2015). Cross-curricular teaching in the primary school : Planning
and facilitating imaginative lessons (Second
ed.). London ; New York: Routledge.
and facilitating imaginative lessons (Second
ed.). London ; New York: Routledge.
· Rowley,
C. and Cooper, H. ed (2009) Cross Curricular approaches to Teaching and
Learning. London: SAGE
· Whitty, G. and Power, S., (2002). The overt and hidden curricula
of quasi-markets. Making sense of education policy, pp.84-106.

Comments
Post a Comment