Sut y gellir datblygu sgiliau cydweithio mewn addysg gynradd?


Mae sgiliau cydweithredol yn cael ei disgrifio gan Smith and MacGregor, (1992) fel “an act that involves groups working together to solve a problem or reach a goal." Hynny yw pobl yn gweithio gyda'i gilydd i ddatrys problemau neu wneud tasg wrth drafod a gwrando ar syniadau ei gilydd. Mae Donaldson (2015) yn son trwy gydol ei chwricwlwm amdano cydweithredol a sut dyle fe cael ei defnyddio trwy gydol pob pwnc. Mae Donaldson (2015) yn credu ei fod yn rhoi’r cyfle i’r disgyblion i siarad gyda'i gilydd a rhannu ei syniadau a'i chymharu er mwyn wella ei dollau dysgu. Mae ‘Good teaching and learning encourages collaboration’ yn is title o fewn y cwricwlwm sydd eisiau i’r athrawon annog cydweithredol rhwng y disgyblion. Hyn yn cael ei chefnogi gan ymchwil Hattie (2009) wrth wneud dros 800 meta ddadansoddiad yn ymwneud â chyflawniad ar y 50,000 o ddisgyblion darganfod fod sgiliau cydweithredol dysgu cydweithredol yn effeithiol. Mae Watkins et al (2007) hefyd yn cefnogi sgiliau cydweithredol wrth ddweud fod yn ffordd fwy effeithiol a dwfn o ddysgu wrth iddyn nhw gael cyd-ddealltwriaeth sydd yn cael ei gyflawni yn unigol, ond hefyd fel rhan o grŵp.


“Learning is now something that the learning does as opposed to what is done to the learner,” (Johnson & Johnson, 1991). Rydw i yn cytuno gyda hyn wrth i mi weld y gwahaniaeth rhwng y ddysgu sydd yn cael ei wneud nawr i gymharu â phryd roeddwn i yn ysgol. Hynny yw oherwydd y defnydd o dechnoleg o fewn y dosbarth, mae’r disgyblion yn gallu dysgu trwy lawer o wahanol lwyfannau ar y we sydd ar draws y byd, i gymharu ag un athro yn y dosbarth yn siarad atoch. Mae gweithio yn gydweithredol yn golygu mae newid rôl i ddisgyblion wrth iddyn nhw o arsylwr goddefol i ddisgybl sydd yn datrys problemau ei hunain. Mae’r athrawon yn rhoi diliau yn lle i bwysleisio gweithio yn gydweithredol, enghraifft o hyn yw sut mae’r desgiau wedi newid dros amser, wrth i ysgolion nawr yn cael desg siâp cylch yn lle sgwâr i bwysleisio gwaith grŵp. Mae’r cynllun eistedd traddodiadol yn pwysleisio trafodaeth o arweiniad athro, gyda’r athro yn siarad at y plant. Nawr mae gweithgareddau dysgu cydweithredol yn galluogi i ddisgyblion datblygu i ddysgu oddi wrth ei gilydd hefyd, (Blatchford et al. 2006). Ond gall hyn fod yn anodd i athrawon i gadw rheolaeth o’r dosbarth wrth i sgwrsio yn cael ei phwysleisio. Hefyd mae rhai plant yn mewn plygiadau felly yn hoffi gwrando ar syniadau ei hunain ac yn fwy tawel wrth iddyn nhw eisiau dysgu yn unigol, felly gyda’r ffordd newydd o ddysgu gall y plant dysgu yn cael ei rwystro oherwydd hyn.
Wrth i sgiliau cydweithredol yn cael ei defnyddio yn y dosbarth mae’r disgyblion yn gwella ei sgiliau cymdeithasol wrth iddyn nhw weithio fel tîm. Mae’r plant yn dysgu i wrando at ei gilydd er mwyn i’r gwaith fod yn effeithiol. Wnaeth Kutnick a Thomas (1990) darganfod fod disgyblion sydd yn gweithio mewn parau yn perfformio yn well i gymharu os ydyn nhw yn gweithio yn unigol, hefyd nad os ots os yw’r disgyblion mewn parau gyda’r un safonau dysgu neu beidio. O fewn darlith wnaethon ni cael y cyfle i weithio mewn parau er mwyn asesu ei sgiliau gwrando. Roedd un person yn cael ei llygaid ar gau wrth i’r person arall disgrifio person enwog, wrth i’r person arall trio dyfalwch pwy oedd e. Wnes i wneud yn dda gyda’r dasg hyn wrth i mi ddyfalu pob un wnaeth cael ei disgrifio. Mae gweithio yn gydweithredol hefyd yn gwella sgiliau gwrando'r plant, sydd yn sgil bwysig iawn er mwyn i’r plant dangos parch a dysgu sut i wrando yn effeithio. Hefyd mae’n annog i’r siaradwr i deimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi. Mae ysgogiad hyn cael ei defnyddio trwy gydol gwaith grwp er mwyn cadw’r awyrgylch yn hapus.


Mae theori Vygotsky (1978) ‘zone of proximal development’ sydd yn ddweud fod plant sydd yn dilyn esiampl mae oedolyn yn rhoi yn gallu datblygu i fod yn annibynnol dros amser wrth wneud tasg ar ben ei hun. Mae hyn yn gallu cael ei cymhwysol i ddysgu cydweithredol oherwydd mae’n gwthio’r plant i weithio yn annibynnol ond hefyd yn trafod a chyfrannu gyda'i chyd disgyblion. Mae Vygotsky yn ddweud fod “speech as the most important mediating device in human behaviour,” (Wertsch, 1991, p. 32). Yn debyg mae Piaget (1976) yn ddweud dyle ddysgu plant fod yn canolbwyntio ar y disgyblion ac yn cael ei gyflawni trwy ddysgu wrth ddarganfod. Rôl yr athro yn ôl Piaget (1976) yw hwyluso dysgu, yn hytrach na hyfforddiant uniongyrchol. Ond i fod yn gritigol mae Noakes-Malach yn dadlau yn erbyn dysgu cydweithredol wrth ddweud, “Critically, the question is not whether collaboration is beneficial to learning, but instead how and when collaboration improves outcomes” (2015, p. 1).
Yn amlwg mae llawer o ymchwil wedi cael gwneud i mewn i ba mor effeithiol yw dysgu cydweithredol o fewn y dosbarth. Yn fy marn i rwy’n credu ei fod yn ffordd effeithiol i gael y disgyblion i weithio yn annibynnol i wthio nhw allan o ei chysur i ddysgu. Ond rydw i yn credu ei fod yn bwysig iawn fod yr athrawon yn dal rhan bwysig o fewn addysg y plant er mwyn gwneud ei siw ei fod yn dysgu yn effeithiol.

Rhestr Cyfeirio
Blatchford, P., Baines, E., Rubie-Davies, C., Bassett, P., & Chowne, A. (2006). The effect of a new approach to group work on pupil-pupil and teacher-pupil interactions. J Educ Psychol, 98(4), 750–765.
Cole, M. and Wertsch, J.V., (1996). Beyond the individual-social antinomy in discussions of Piaget and Vygotsky. Human development, 39(5), pp.250-256.
Hattie, J., (2009). Visible learning: A synthesis of over 800 meta-analyses relating to achievement. routledge.
Nokes-Malach, T., & Richey, E.,  & Gadgil, S., (2015). When Is It Better to Learn Together? Insights from Research
on Collaborative Learning.
Springer: New York.
Perumal, J., (2008). Student resistance and teacher authority: the demands and dynamics of collaborative learning. Journal of Curriculum Studies, 40(3), pp.381-398.
Piaget, J., (1976). Piaget’s theory. In Piaget and his school (pp. 11-23). Springer, Berlin, Heidelberg.
Scott, P., 1(998). Teacher talk and meaning making in science classrooms: A Vygotskian analysis and review.
Smith, B.L. and MacGregor, J.T., (1992). What is collaborative learning.
Vygotsky, L. (1978). Mind in Society. Cambridge, MA: Harvard University Press.
Watkins, C., E. Carnell, et al. (2007). Effective learning in classrooms. London, UK, Paul Chapman Publishing.

Comments