Ydych chi'n meddwl bod angen i iechyd meddwl a lles fod yn brif ffocws mewn ysgolion?

Mae llawer o ffactorau sy'n effeithio ar ddatblygiad plentyn, o safbwynt meddyliol ac yn gorfforol. Mae bwlio yn cael effaith niweidiol ar ddatblygiad emosiynol plentyn, yn enwedig pryd na cafodd ei drin yn gywir mewn lleoliadau addysgol. Hefyd, mae pwysigrwydd ymwybyddiaeth gwrth-fwlio yn caniatáu ardal i wella'n sylweddol, ar gyfer y nifer sydd yn cael eu bwlio a'r rhai sydd yn annisgwyl o fwlio. Mae gweithredu prydau fwyd iachach yn cynyddu ymgysylltiad myfyrwyr. Mae diet cytbwys iach yn cynyddu gweithgarwch yr ymennydd ac yn gwella crynodiad myfyrwyr. Mae strategaethau'n cael eu gweithredu mewn amrywiaeth o leoliadau addysgol i gynyddu ymwybyddiaeth a phwysigrwydd agweddau cymdeithasol yn ogystal â gwelliant academaidd i gefnogi dilyniant gwell i blant trwy gydol eu blynyddoedd hanfodol.

Mae nifer yr hunanladdiadau yn eu harddegau yng Nghymru a Lloegr wedi cynyddu dros chwe deg y cant rhwng 2010 a 2017, (ONS). Mae hon yn ystadegyn syfrdanol, sy'n dangos y cynnydd yn y bobl ifanc yn eu harddegau sydd yn cael trafferth, gall hyn fod oherwydd problemau iechyd meddwl neu brofedigaeth ac yn y blaen. Rwy’n credu mai rhaid i iechyd meddwl cael ei gwthio o fewn ysgolion llawer fwy, a chael gwersi yn ffocysu yn union ar y topig hwn. Mae yna gynghorwyr sy'n gallu darparu cefnogaeth sy'n wych, ond rwy’n credu mai angen i ni addysgu'r plant gyda'r holl wybodaeth gywir am sut i ofyn am gymorth wrth ddechrau teimlo yn isel, yn hytrach nag aros nes eu bod yn cael trafferth wirioneddol. “Health and Education go hand in hand: one cannot exist without the other. To believe any differently is to hamper progress. Just as our children have the right to receive the best education available, they have a right to be health” (Healthy Children Ready to Learn: An Essential Collaboration Between Health and Education, 1992, p23). Mae llawer o blant yn cael profion o gael ei fwlio, gall hyn cael effaith mawr ar iechyd meddwl plant. Mae 40% o blant a phobl ifanc wedi cael ei fwlio o fewn y 12 mis diwethaf, mae hyn yn ystadegyn trist felly mae rhaid i’r ysgolion gweithio i wella’r broblem hyn. I wella’r sefyllfa mae rhaglen wedi cael gweithredu i hyrwyddo strategaethau gwrth-fwlio, (anti-bullying, 2017). Mae 'kidescape' yn fudiad sy'n ymweld ag ysgolion i ddarparu cefnogaeth ac i bwysleisio'r effaith negyddol gall bwlio ei chael ar unigolyn. Maent hefyd yn creu cyfle i blant gael eu hannog i ddefnyddio strategaethau sy'n hyrwyddo gwrth-fwlio a ffyrdd y gall disgyblion ddelio â bwlio, (Kidescape, 2002).

Cafodd ei brofi gwyddonol fod addysg gorfforol yn ffordd wych i wneud i chi teimlo’n well ac wrth fod yn heini rydych yn 25% llai tebygol o gael anhwylder pryder neu iselder ysbryd dros y pum mlynedd nesaf, (Otto, 2011). Mae Donaldson (2015) yn sôn yn ei adroddiad fod rhaid i athrawon dod a llythrennedd corfforol i mewn i wersi. Hefyd mae’n ddweud fod rhaid i bob plant yng Nghymru cael gwersi addysg gorfforol o safon uchel er mwyn gwneud yn siŵr fod pob unigolyn yn cael hyder a’r cymhelliant yn ei bywydau. Mae gan un allan o deg plentyn problemau iechyd meddwl, sef tri o bob dosbarth yn dioddef yn feddyliol. Felly mae’n hynod o bwys bod plant yn cael y gefnogaeth sydd angen, (Young Minds, 2017). Mae rhaid i addysg gorfforol cael ei gwthio am resymau ffisegol er mwyn lleihau'r niferoedd o blant dros bwysau yng Nghymru. Mae’n bwysig iawn fod plant yn cael gwersi ar y pwysigrwydd o gadw’n heini, a beth gall digwydd os nad yw’r plant yn edrych ar o lei hunain. Bydd I’n dangos y fideo canlynol o fewn gwersi lles i ddysgu’r plant y pwysigrwydd o gadw’n heini.


“I think it’s our duty really that children should be as active as possible, an, obviously we’re trying to encourage children to become more involved in sport, in later life, and so we introduce them to sports…and the only way they can do this is if they are fit enough also to participate in these sports (interview, cited in Green and Thurston, 2002, p.115).
Mae pedair prif ganolbwyntiau mewn cwricwla Donaldson; un lles y dylai datblygiad cyfannol plant yn datblygu wrth mewn ffordd iach a hyderus er mwyn ydyn nhw ddatblygu i unigolion annibynnol. O fewn y canolbwynt hwn, mae Donaldson (2015) pwysleisio'r pwysigrwydd ar ffactorau corfforol, fel ymarfer corff a diet yn ffactor arwyddocaol ar iechyd meddwl, (Donaldson, 2015). Dywed y dylai plant ddatblygu arferion da o oedran ifanc i sicrhau eu bod yn parhau â ffordd iach o fyw yn y dyfodol. Mae Donaldson (2015) hefyd wedi gwneud 'iechyd a lles' yn un o'i chwe maes dysgu. Mae'n argymell y dylai'r cwricwlwm gael ei drefnu o gwmpas y chwe maes dysgu yn hytrach na chael ei wahanu i bynciau fel hyn o bryd. Mae hyn yn golygu fod Donaldson (2015) eisiau er enghraifft 'iechyd a lles' i'w dynnu i mewn i'r wers fel bod plant yn ymwybodol o'r pwysigrwydd, a sut mae'n cyd-fynd â bywyd o ddydd i ddydd. Er enghraifft, mewn seminar, wnaethon ni trafod sut y gallem ei gydgysylltu â phynciau eraill. Awgrymais y gellid dod ag iechyd a lles i mewn i wersi bioleg.


Wrth i Donaldson (2015) gwneud ‘iechyd a lles’ un o’r chwe maes dysgu mae’n amlwg fod angen i’r athrawon gwthio’r lles plant. Heddiw yn ysgolion mae plant yn cael gwersi yoga oherwydd mae astudiaeth yn ddweud fod yoga yn helpu plant wella ei agwedd, i deimlo’n positif, ystum gwell wrth iddyn nhw gael fwy o egni ac yn teimlo’n hamddenol. (Khalsa, 2012). Felly wrth i ysgolion ddod ac yoga i mewn i wersi, mae rhaid i ni hefyd paratoi yn barod i ddysgu plant yoga hefyd. O fewn seminarau rydyn ni wedi cael gwersi yoga a dysgu sut i wneud e diddorol i blant. I wneud hyn roedd rhaid dod ac yoga i mewn i gêm er mwyn i’r plant chofio’r symudiadau. Mae’r llun canlynol yn dangos un dilyniant wnaethon ni ddysgu. Mae dilyniant hyn yn dod a llawer o ystum yoga i mewn wrth i’r plant ymestyn ei chorff. Wrth ddysgu gwahanol strategaethau yoga wnaethon ni wedyn cael profiad o ddysgu’r yoga i flwyddyn chwech o ysgol Gymraeg lleol. Wnes i weld newidiad mawr o fewn y plant wrth wneud yoga, wnaethon nhw wrando’n well wrth yn gallu rheoli ei egni. Rwy’n credu mai yoga yn gwella’r plant yn ffisegol, ac yn feddyliol felly bydd yn effeithiol o fewn ysgolion. Mae’r lluniau canlynol yn dangos ni yn dysgu’r plant yoga, hefyd wnaethon ni ddangos y plant sut i wneud.

















Drwy drafod maeth, diet a phwysigrwydd bwyta’n iach yn bwysig i chi nid yn unig yn gorfforol, ond hefyd yn feddyliol. Mae ysgolion yn addysgu plant ar fwyta'n iach; mae'r gwersi hyn yn dechrau gydag amser cinio lle mae plant yn cael prydau iach sy'n cynnwys ffrwyth a dŵr gan eu rhieni yn hytrach na byrbrydau afiach fel siocled, creision a diodydd siwgr wrth i'r rhain gael eu gwahardd. Mae bwyta'r bwydydd cywir yn gwella swyddogaeth yr ymennydd, cof, a chanolbwyntio, ac felly fydd plant yn datblygu yn well wrth i'r plant teimlo'n iach, yn hytrach na chyffrous oherwydd fwyd a diodydd siwgr. Mae yna gysylltiad rhwng haearn isel a hwyliau a chrynodiad gwael. Hefyd mae tystiolaeth fod braster omega tri yn helpu gyda sylw plant. Mae’r canran o blant sydd ddim yn cael digon o haearn, omega tri a fitamin D yn eithaf uchel. I rai plant, gall cynyddu nifer o fwydydd sy'n cynnwys maetholion yn wneud gwahaniaeth i hwyliau, dysgu ac ymddygiad, (Bath, 2013).  Ond, i fod yn feirniadol o hyn, nid yw pob rhiant yn hapus gyda'r newidiadau hyn, gan fod llawer o blant yn fwytawyr ffyslyd felly gall hyn gallai hyn fod yn broblem i rieni. Mae bwyd iachus yn ddrutach i rieni, felly mae'n anodd iddyn nhw ddarparu prydau iach yn gyson. Ond os na fydd rhieni'n addysgu eu plant ar bwysigrwydd dewisiadau iach, mae’r cyfrifoldeb yr ysgol i ddysgu yn lle. Mae'r fideo canlynol yn esbonio pwysigrwydd bwyta'n iach i blant, fel athro sy'n cyflwyno bwyta'n iach. Byddwn yn dangos y fideo hwn ac yn cael gwers yn seiliedig arno. 
Byddwn yn cynllunio gweithgaredd lle mae disgyblion yn dylunio cynnyrch bwyd iach ac yn hysbysebu'r holl fanteision iddo ei chyd-ddisgyblion. Bydd hyn yn galluogi i’r plant weithio allan dros eu hunain pa fwydydd sy'n iach ac afiach i'w bwyta a'r effaith y gall ei gael ar eich lles.
I gloi, caiff effeithiau bwlio cael effaith 
hirdymor ar iechyd meddwl disgyblion. Pobl sydd yn cael profiad sy'n profi lefel uchel o fwlio yn cael effaith andwyol ar eu hiechyd meddwl, ac yna yn cael effaith sylweddol ar eu haddysg a'u datblygiad cyfannol cyfan. Mae gweithredu prydau bwyd cinio iachach yn caniatáu effaith gadarnhaol ar agwedd gorfforol a meddyliol datblygiad myfyriwr. Wrth fwyta diet iach a chytbwys mae'n effeithio’r ffordd mewn gwaith yr unigolyn a lefelau egni; bydd y rhai sy'n teimlo'n bositif ynddynt eu hunain yn fwy cynhyrchiol yn eu haddysg.

Rhestr Cyfeirio
-        Bath, S.C. and Rayman, M.P., (2013). BDA food fact sheet—Iodine.
-        Donaldson, G., (2015). Successful futures: Independent review of curriculum and assessment arrangements in Wales. Welsh Government.
-        https://www.anti-bullyingalliance.org.uk/tools-information/all-about-bullying/prevalence-and-impact/prevalence-bullying
-        Khalsa, S.B.S., Hickey-Schultz, L., Cohen, D., Steiner, N. and Cope, S., 2012. Evaluation of the mental health benefits of yoga in a secondary school: a preliminary randomized controlled trial (2012). The journal of behavioral health services & research39(1), pp.80-90.
-        Kidscape (Organisation), (2002). Bullying: A practical guide to coping for schools. Pearson Education.
-        Minds, Y., (2017). About Depression.
-        Novello, A.C., Degraw, C. and Kleinman, D.V., 1992. Healthy children ready to learn: an essential collaboration between health and education. Public health reports, 107(1).
-        Office of national statistics (2017).
-        Otto, M., Smits, J. and Smits, J.A., (2011). Exercise for mood and anxiety: Proven strategies for overcoming depression and enhancing well-being









Comments