Beth yw gwerth addysgeg natur (dysgu yn yr awyr agored) mewn addysg gynradd?

Roeddwn i'n hoffi bod yn yr awyr agored, ac na fyddwn yn gallu dychmygu peidio â threulio fy amser yn yr awyr agored. Ond nawr mae fwy o wrthdyniadau i gyfyngu plant fwynhau natur. Mae Waite et al (2016) yn fod plant yn “‘disconnected’ from the natural world, and a growing body of literature indicates that humans need contact with nature for their health and wellbeing.” Felly rwy’n credu mai gwersi yn natur yn bwysig iawn i wella datblygiad plant, gorfforol ac yn feddyliol.
Mae plant heddiw yn amgylchynu gan dechnoleg, i gymharu i flynyddoedd yn ôl pryd roedd natur y brif thema mewn chwarae ac addysg plant. Mae plant wedi cael eu datgysylltu o natur, ac mae technoleg wedi bod un o'r prif gydrannau i achosi'r gwahaniad hwn. Mae Bragg (2013) yn cefnogi hyn wrth son amdano adroddiad RSPB sy'n dod i'r casgliad fod pedwar allan o bump o blant yn y Deyrnas Unedig ddim 'yn gysylltiedig â natur.' Mae plant yn gwario fwy o amser ar technology yn lle chwarae yn natur. Ond wrth i mi fod yn gritigol o blant yn gwario fwy o amser ar technology, nad ydy pob plentyn yn cael mynediad i natur wrth fwy mewn dinas, neu rheini yn gweithio llawer o oriau ac o ganlyniad ddim yn gallu mynd a’r plant tu allan i’r natur. Felly mae technoleg yn gallu rhoi rhyw fath o fynediad i blant ymgysylltu gyda natur, trwy realiti rhithwir. Er bod technoleg yn gallu rhoi cyfle i blant gwylio natur, nad yw’r plant yn archwilio natur yn gywir. Mae Louv yn disgrifio’r plant heddiw yn cael “nature-deficit disorder” wrth iddyn nhw fod yn ddifreintiedig o natur. I ehangu, mae Louv (2008, p.20) hefyd yn ddweud, “there’s no replacement for actual time spent in nature.”


“As a society, we need to give nature back to our children and ourselves. To not do so is immoral. It is unethical” (Louv, 2011, p.268.) Mae natur yn galluogi plant i archwilio, lleihau tensiwn, ac i ryddhau eu holl egni. Mae natur yn lle agored i blant rhedeg, dringo, a mwynhau gyda ffrindiau wrth ddarganfod pethau newydd of fewn natur. Mae’r plant yn datblygu'n gyfannol wrth fod yn yr awyr agored. Yn ddiweddar fe gyflawnais fy nghymhwyster lefel 2 goedwig. Wnaeth hyn rhoi cipolwg i mi i'r manteision gwych mae plant yn eu hennill wrth chwarae a datblygu yn yr awyr agored. Er bod y plant y tu allan yn chwarae, roedd y plant yn llawer mwy hamddenol ac yn barod i ddysgu a darganfod pethau. Na allwn wneud hyn mewn ystafell ddosbarth. Mae ymchwil yn awgrymu y bydd plant heb brofiadau uniongyrchol mewn natur yn colli cyfleoedd hanfodol i wella eu lles, eu hiechyd a'u perthnasoedd yn gyffredinol. Mae astudiaethau hefyd yn cefnogi fod natur yn lleihau symptomau ‘ADHD’, gyda sylw'r plentyn yn canolbwyntio'n fwy ac yn ymgysylltu â hi, heb dynnu sylw, (Kuo, 2004). Mae chwarae naturiol gyda llawer o blanhigion o amgylch yn fod i roi gwell canlyniadau i leihau straen oddi wrth blant dan straen. Mae chwarae naturiol yn cefnogi datrys problemau a chreadigrwydd plentyn ac mae astudiaethau yn datgan fod plant yn ymgysylltu yn well o fewn nature i gymharu ag iard ysgol. (Bell and Dyment, 2008). Mae natur yn rhoi cyfle am chwarae dilys i’r plant, mae’r chwarae yn dod yn naturiol pryd mae natur a phlant yn dod at ei gilydd (Stephens, 2009).
Mae natur yn rhoi cyfleoedd i blant datblygiad synhwyraidd, sgiliau echddygol a datblygu a thyfu gorau phosib, (Miller, 2009). Gyda'r holl ddatblygiad mae natur yn cynnig, nid yw'n syndod pam fod dysgu awyr agored yn ofyniad statudol i bob ysgol yng Nghymru. Yn ôl Estyn (2011) mae dysgu tu allan yn hyrwyddo ymgysylltiad a mwynhad plant wrth ddysgu. Mae’r plant yn datblygu cymdeithasol a personol wrth ddatblygu eu lles. Mae dysgu yn nature yn hefyd ddysgu i gymhwyso ei sgiliau meddwl i broblemau go iawn. I wthio dysgu yn natur mae’r llywodraeth wedi gwneud yn orfodol i athrawon ddangos fod yn gallu cynllunio gwersi yn natur fel rhan o ei hyfforddiant QTS, (Welsh Assembly Government, 2009). Felly mae plant yn cael mynediad i natur, ond yn llawer llai i gymharu â chenedlaethau hŷn. Ond i fod yn gritigol o ddysgu yn natur mae llawer yn credu mai rhaid i fwy o ymchwil cael ei wneud i bobl ddeall pwysigrwydd ddysgu tu allan y dosbarth, (Rickinson et al.,2004; Dillon et al, 2005; Elliott and Young, 2016; Fasting, 2018). Mae angen i agweddau pobl tuag at natur a sut rydym yn defnyddio angen newid, fel mae Wilson (2018) yn datgan, “This is done by presenting nature as a resource or commodity and as something that has only instrumental or utilitarian value. This way of thinking reflects a typical western view of humans as being separate from and dominant over nature.” (Wilson, 2018,p.66)

Mae’r dyfyniad Wilson (2018) yn gwrthgyferbynnu gyda Arvay (2018) sydd yn ddweud, “Human beings come from nature. We have been formed by our interactions with nature. We should therefore be considered a part of nature, just like all other life forms. The same life force in us also operates in animals and plants.” (Arvay, 2018, p.21) Mae’r dyfyniad yn cyfeirio at bioffilia sydd yn derm i ddisgrifio cariad rhywun tuag at bethau byw, a bod o amgylch natur. Mae Cajete (1999) yn categoreiddio addysg biophilic mewn pedwar egwyddorion o ddefnyddio’r tu allan i wella Iechyd meddwl:




·       Meddu ar gyfeiriadedd yn y gymuned.

·       Canolbwyntio ar y plentyn.

·       Ymglymiad gweithgar yn y gymuned.

·       Dysgu trwy ddod i gysylltiad uniongyrchol â lleoedd naturiol.
 (Cajete, 1999, pp. 203-204)

Mae natur yn galluogi i blant mwynhau ac archwilio yn rhydd, yn hytrach na chael eu cyfyngu i chwarae o fewn pedair wal. Mae’n bwysig i blant mynd allan i gymdeithasu gyda’r gymuned ac mae “Green plants and vistas reduce stress among highly stressed children.” (nature learning initiative 2012) Mae nature yn lleihau straen ar blant ac yn gwella ei lles. Cafodd y wybodaeth hon ei chymryd o'r fideo.


Gyda dysgu awyr agored yn cael ei wneud yn ofyniad statudol rwy’n credu gall hyn ddatblygu plant i dreulio fwy o amser o fewn natur oherwydd maen nhw’n cael fwy o fynediad i natur trwy ysgol. Mae addysgeg natur yn ysgolion yn ffactor pwysig i wella datblygiad plant. Mae natur yn cynnig plant i chwarae yn rhydd ac yn cael hwyl heb sylweddoli maen nhw’n dysgu llawer o sgiliau newydd sydd yn gallu cael ei throsglwyddo i fywyd o ddydd i ddydd. Rwy’n credu mai rhaid i ddysgu yn natur cael ei hyrwyddo fwy o fewn ysgolion, neu bydd technoleg cymryd drosodd.




Rhestr cyfeirio


·       Bell, A.C. and Dyment, J.E., (2008). Grounds for health: the intersection of green school grounds and healthpromoting schools. Environmental Education Research, 14(1), pp.77-90.


·       Bragg, R., Wood, C., Barton, J., & Pretty, J. (2013). Measuring connection to nature in children aged 8-12: A robust methodology for the RSPB. University of Essex.


·       Estyn (2011) Outdoor learning – an evaluation of learning in the outdoors for children under five in the Foundation Phase. Cardiff: Estyn.

·       Kuo, F.E. and Faber Taylor, A., (2004). A potential natural treatment for attention-deficit/hyperactivity disorder: evidence from a national study. American journal of public health, 94(9), pp.1580-1586.
·       Louv, R. (2011). The nature principle: Human restoration and the end of nature-deficit disorder. Algonquin Books.
·       Louv, R., (2008). Last child in the woods: Saving our children from nature-deficit disorder. Algonquin books.
·       Miller,  D.L.,  Tichota,  K.  and  White,  J.  (2009).  Young  Children  Learn  Through  Play  in  a  Nature  Explore  Classroom.  Lincoln,  NE:  Dimensions  Educational  Research  Foundation. 
·       Natural Learning Initiative. (2012). Benefits of Connecting Children with Nature: Why Naturalize Outdoor Learning Environments
·       Rickinson, M., Dillon, J., Tearney, K., Morris., Choi, M.Y. and Sanders, D. (2004) A Review of Research on Outdoor Learning. Slough: NFER and King’s College, London.
·       Stephens,  K. (2009).  Imaginative play during  childhood:  required  for  reaching  full  potential. 
·       WAG (2009) Education, Wales 2009 (No.25) – Qualified teacher status standards Wales 2009. Cardiff: Welsh Assembly Government.
·       Waite, S., Bølling, M., & Bentsen, P. (2016). Comparing apples and pears?: a conceptual framework for understanding forms of outdoor learning through comparison of English Forest Schools and Danish udeskole. Environmental Education Research22(6), 868-892.

·       Wilson, R. (2012). Nature and Young Children. London: Routledge.

Comments