O fewn adroddiad
‘Succesful futures’ mae Donaldson (2015) yn datgan deuddeg egwyddor mae rhaid i
athrawon ei defnyddio er mwyn i’r disgyblion cael y fwyaf allan o eu gwersi.
Mae’r deuddeg egwyddorion yn cynnwys sgiliau allweddol ac yn cynnig llawer o
gyfleoedd ar gyfer datblygiad. Mae’r egwyddorion pedagogaidd yn uniongyrchol
â'r pedwar dibenion addysg o fewn y cwricwlwm newydd. Mae cwricwlwm newydd
Donaldson (2015) yn mynd i gael effaith ar “the nation’s education system
is on the edge of something revolutionary and the profession now has the
opportunity to shape the educational future” (Evans, 2015, pp1).
Yn gyntaf, byddaf yn rhoi
trosolwg o'r deuddeg egwyddorion pedagogaidd. Yn fy marn i rwy’n credu gall y
deuddeg egwyddorion pedagogaidd fod yn fwy syml a chrynhoi, fel enghraifft
gallwn weld ar ddechrau pob egwyddorion fod ‘good teaching and learning’ yn
cael ei ailadrodd. Dydw I ddim yn deall pam mae Donaldson (2015) yn ailadrodd
yn pob pwynt. Ond i fod yn deg efallai fod Donaldson (2015) yn ailadrodd y geiria
i fod yn effeithiol ac i dynnu sylw ato er mwyn i’r athrawon a disgyblion fod
yn ymwybodol o’r canlyniad mae'n gobeithio y bydd yr egwyddorion yn dod.
Mae’r egwyddor bedagogaidd
gyntaf yn ddweud fod rhaid i’r ddysgu ffocysu ar bwrpasau'r cwricwlwm. Mae
egwyddor hyn yn amwys iawn, ydy Donaldson (2015) eisiau i ymarferwyr ddod a’r
cwricwlwm i gyd i mewn i bob gwers? Rwy’n credu ei fod yn amlwg mae rhaid i
ymarferwyr dilyn y cwricwlwm ac yn dod i mewn i wersi, ond rwy’n credu dyle fe
ddod yn naturiol ac yn briodol ar gyfer y wers, nid yn unig er mwyn i gwrdd â'r
meini prawf. Mae rhaid i’r athrawon cwrdd â’r targedau’r cwricwlwm ond hefyd
cwrdd â’r anghenion plant o fewn y dosbarth, sydd yn gallu cymryd fwy o amser o
fewn gwersi. Mae ‘Undeb Cenedlaethol yr Athrawon’ yn fod yn gritigol o
gwricwlwm newydd Donaldson (2015) wrth ddweud ei fod "lack of direction
and vision in terms of translating the fantastic vision of the Donaldson review
into something tangible", (NUT, 2018). O fewn fy ysgol ddelfrydol byddwn i
ddim yn disgwyl i’r athrawon ddod a cymaint o bynciau o fewn un wers. Byddwn yn
cadw’r gwersi yn ddiddorol ond fwy syml i ddechrau, ac yna wrth iddyn nhw ddod
yn hŷn byddwn yn gwneud yn fwy manwl a dod a fwy o bynciau eraill i mewn i’r
gwersi.
Mae’r chweched egwyddor yn
ddweud fod ‘good teaching and learning creates authentic contexts for
learning.’ Rwy’n credu fod yr egwyddor yn rhy eang oherwydd dydi e ddim yn
ddweud pa fath o gyd-destunau dilys mae Donaldson (2015) yn eisiau. Credaf
dylai fod yn fwy manwl er mwyn i’r athrawon cwrdd â’r gofynion yn well. Mae
Steventon (2016) yn ddweud fod dysgu dilys yn gallu newid y ddynameg o’r
amgylchedd dysgu i’r disgyblion wrth newid y rhwystrau mae dosbarth yn rhoi i’r
plant. Mae Cyfarwyddwr undeb
addysgu ATL Philip Doxon yn rhybuddio fod newydd mor sydyn yn gallu arwain at
fylchau rhwng yr hyn mae Donaldson (2015) yn ei ddweud a'r hyn sydd yn cael ei
wneud o fewn ysgolion. Byddwn yn dod a chyd-destunau dilys o fewn fy ngwersi yn
fy ysgol ddelfrydol, ond byddwn yn dod a rhai perthnasol i’r pwnc ar y pryd, er
mwyn iddyn nhw fod yn effeithiol o fewn gwersi eraill.
Rwy’n credu fod dysgu dilys o'r egwyddor bedagogaidd yn effeithiol o fewn
cwricwlwm, ond o fewn fy ysgol ddelfrydol byddwn yn defnyddio’r fodel AMT er
mwyn i athrawon cael y cyfle i gynllunio gwersi yn addas i gwrdd â’r gofynion.
Mae AMT yn sefyll am ‘acquisition, meaning, and transfer’. Mae rhaid i’r
ymarferwyr ddysgu gwybodaeth ffeithiol a sgiliau syml i’r disgyblion i gwrdd
â’r rhan ‘acquisition’. Felly fydd yr athrawes yn hysbysu'r dysgwyr trwy
gyfarwyddyd pendant, gyda gwybodaeth a sgiliau yn cael ei thargedu. Mae’r
‘meaning’ yn darged arall i athrawon gyrraedd wrth ddysgu yn ddilys er mwyn
gwneud yn siŵr fod ddisgyblion yn dod i ddealltwriaeth eu hunain o ystyr y dasg
a sut i fynd ati i gwblhau. Ac yn olaf mae’r ‘transfer’ yn darged sydd yn
cefnogi disgyblion i drosglwyddo ei sgiliau wnaethon nhw ddysgu i sefyllfaoedd
newydd. Byddwn yn defnyddio dull gweithredu mwy ymarferol fel hyn fel rhan o fy
ysgol delfrydol gan fy mod yn credu bod myfyrwyr yn dysgu mwy trwy wneud
pethau. Mae Montessori (1907) yn cefnogi hyn wrth gyda'i theori fod plant yn
dysgu fwy wrth ddysgu yn annibynnol wrth ddysgu trwy wneud, yn lle cael ei
siarad â. Byddwn yn defnyddio theori Montessori o fewn fy ysgol ddelfrydol er mwyn i’r plant ddatblygu yn annibynnol.
O fewn egwyddorion
pedagogaidd Donaldson (2015) mae egwyddor sydd yn ddweud fod ‘good teaching and
learning means employing assessment for learning principles’. Rwy’n meddwl fod
hwn yn annelwig iawn oherwydd dydy e ddim yn dweud beth yw’r egwyddorion dysgu.
Byddwn yn newid hwn oherwydd dydy e ddim yn glir pa egwyddorion pedagogaidd mae’n
cyfeirio at, efallai bod egwyddorion eraill o fewn y cwricwlwm newydd felly
dyle hyn fod yn fwy amlwg i’r darllenydd.
Rwy’n cytuno gyda’r ail egwyddor bedagogaidd oherwydd mae’n rhoi
strwythur i’r ymarferwyr dilyn er mwyn i’r disgyblion cyrraedd ei tharged
unigol. Mae Donaldson (2015) yn awgrymu camau dilyniant i blant dilyn er mwyn
i’r athrawon cadw trefn ar ei ddatblygiad ac i fod yn ymwybodol os mae plentyn
yn cael trafferth o fewn un o’r pynciau. Rwy’n credu ei fod yn bwysig iawn i
blant cael cefnogaeth briodol wrth ddeall y pwysigrwydd wrth geisio rhoi ei
gorau o fewn addysg. Er mwyn i blant ddatblygu a dysgu i'w gorau phosib mae
rhaid iddyn nhw gael sylfaen yn gyntaf yn ôl Maslow (1943). Wrth edrych ar y
diagram pyramid mae Maslow (1943) yn ddweud fod rhaid i’r disgyblion cael
anghenion ffisiolegol sylfaenol fel bwyd a dŵr i sicrhau eu bod yn unigolion
iach er mwyn ddatblygu a ffocws ar waith. Yna bydd yr unigolyn yn gweithio lan
y pyramid wrth gael yr anghenion sylfaenol, anghenion seicolegol ac yna
anghenion hunan-gyflawni bydd y disgybl yn barod i gyrraedd ei photensial llawn
er mwyn ddatblygu gorau phosib.
Hefyd rydw i’n hoffi’r bedwaredd
egwyddor bedagogaidd Donaldson (2015) wrth ddweud fod rhaid i’r athrawon
defnyddio amrywiaeth o strategaethau dysgu, mae’n fod yn fanwl wrth ddweud fod
eisiau i’r ddysgu hyrwyddo meddwl critigol a datrys problemau. Mae’r sgiliau yn
anodd i datblygu, felly wrth i’r plant ddysgu’r sgiliau o oedran ifanc mae’n
caniatâi i’r disgyblion defnyddio’r sgil yn ymarferol. Os nad yw’r plant yn
cael sgiliau ddatrys problemau mae’r plant yn llai tebygol o geisio datrys y
broblem. Mae athrawon yn dysgu plant i feddwl yn gritigol wrth ofyn y chwe
chwestiwn wrth wynebu datganiad. Rwy’n credu ei fod y sgiliau yn hanfodol wrth
baratoi plant am ei dyfodol, a byddwn yn cadw’r egwyddor bedagogaidd hyn i mewn
ar gyfer fy ysgol ddelfrydol, ond gall rhai athrawon cael trafferth ddod a’r
sgiliau i mewn i bob pwnc.
Mae
Donaldson (2015) yn ddweud yn ei egwyddorion pedagogaidd fod ‘good teaching and
learning ranges within and across Areas of Learning and Experience.’ Yn fy marn
i rwy’n credu ei fod yn bwynt effeithiol oherwydd bydd athrawon yn addysgu
plant pynciau pwysig sydd yn dod o dan y chwech meysydd dysgu a phrofiad, ac
yna yn dysgu mewn ffordd fwy trosglwyddadwy. Fydd hyn yn gwneud yn fwy diddorol i’r disgyblion ac
yna fyddwn nhw’n gyswllt rhwng y pynciau gwahanol wrth ddefnyddio’r sgiliau
maent wedi datblygu. Ond i fod yn gritigol o’r egwyddor, dydw i ddim yn deall
sut ydych chi’n gwneud hyn o fewn ac ar draws y cwricwlwm fel mae Donaldson
(2015) wedi mynnu, nid yw’r geiriau yn meddwl yr un peth? Mae’r meysydd dysgu a
phrofiad yn ddull effeithiol i ddod a fwy pwnciau at ei gilydd. Ond mae pennaeth ysgol gynradd yn ansicr os fydd y
cwricwlwm yn dod i ysgolion erbyn 2021, ac os mae’r cwricwlwm yn rhy uchelgeisiol,
(Evans, 2015).
Mae’r
drydedd egwyddor bedagogaidd yn ceisio darparu ar gyfer y dosbarth i gyd, yn
lle unigolion. Mae addysgu uniongyrchol yn gallu galluogi i’r ymarferwyr ddweud
wrth y disgyblion y wybodaeth wrth arddangos i’r disgyblion ac yna bydd y
disgyblion yn cael cyfle i wneud y dasg, a fydd yr ymarferwyr yn gallu
gwerthuso sut wnaeth y disgyblion perfformio. Mae’r theori Burner (1976) yn
ddweud fod ‘scaffolding’ yn cynrychioli'r broses o addysgu a dysgu wrth i’r
athrawon fod y ‘scaffolding’ sydd yn cefnogi’r disgyblion wrth iddyn nhw
ddysgu, ac yn rhoi cefnogaeth i’r disgyblion wrth iddyn nhw fynd lan i’r cam
nesaf, a hefyd fydd y plant yn fwy annibynnol wrth weithio ar ben ei hun. Ond
mae’r theori wedi cael beirniadwyd wrth i Jordan (2009) ddweud fod yr ymagwedd
yn rhoi pŵer i’r athrawon dros y disgyblion, pryd ddylen nhw fod ar yr un lefel
a nhw. Byddaf yn newid yr egwyddor hon ychydig oherwydd dydw i ddim yn credu
fod yr arddull addysgu yn ffocysu ar yr unigolyn ac felly fydd rhai disgyblion yn
cael fwy trafferth na eraill. Mae hyn yn cael ei chefnogi can Schiro (2012)
wrth iddo ddweud dyle’r cwricwlwm fod amdano’r eisiau’r disgyblion a sut maen
nhw’n dysgu’n well, nid sut mae’r ymarferwyr yn hoffi dysgu trwy. “The
curriculum is to organize itself around individuals intentions to learn rather
than educatiors’ intentions to teach them around what individuals’ learning
styles rather than around teachers’ prffered teaching styles” (Schiro,
2012, pp102).
Wrth adolygu egwyddorion
pedagogaidd Donaldson (2015) wnes i gytuno gyda rhan fwyaf ohonyn nhw, a byddwn
yn defnyddio o fewn fy ysgol ddelfrydol. Gyda rhai roeddwn i’n ansicr gyda’r
ffordd cafodd ei ysgrifennu, ond wrth addasu hyn a rhoi fwy o fanylion fydd yn
glir i’r ymarferwyr beth sydd yn cael ei ofyn ohono. Wnaeth Lewis (2015) Y
Gweinidog dros Addysg a Sgiliau ddweud fod cwricwlwm Donaldson (2015) yr
ysgogiad mwyaf i addysg ers 1944. Felly mae rhai yn amheus gyda’r cwricwlwm
newydd, a ddim yn siŵr os mae’r ffordd gywir o newid y cwricwlwm ar gyfer y
dyfodol. Mae’r cwricwlwm newydd yn mynd i gael effaith mawr ar sut mae plant yn
cael ei addysgu, ac yn fy marn i rwy’n credu bydd yn effeithiol iawn i
ddisgyblion, ond efallai yn rhoi fwy o bwysau ar ymarferwyr.
Rhestr cyfeirio
· Acel.org.au. (2018). [online] Available at:
http://www.acel.org.au/acel/ACEL_docs/Publications/e-Teaching/2016/e-Teaching_2016_31.pdf
[Accessed 3 Dec. 2018].
·
BBC News. (2018). Huge
challenges to change curriculum. [online] Available at:
http://www.bbc.com/news/uk-wales-politics-35501914 [Accessed 3 Dec. 2018].
·
BBC News. (2018). School
shake-up 'within eight years'. [online] Available at:
https://www.bbc.com/news/uk-wales-33087859 [Accessed 3 Dec. 2018].
·
Donaldson, G., (2015). Successful futures:
Independent review of curriculum and assessment arrangements in Wales.
Welsh Government.
·
Evans G (2015) Education system in Wales on the
edge of something revolutionary’ says union. Wales Online. 3 November.
Available at: http://www.walesonline.co.uk/news/education/educationsystem-wales-on-edge-10375320
·
Franklin, B. (2016). Tell me and I forget, teach me and I may remember,
involve me and I learn. Sign, 1, 3.
· Jordan,
J. M. (2009). Relational–cultural therapy. Washington, D.C.: American Psychological
Association.
·
Lemke, M. and Zhu, L., (2018). Successful
futures? New economy business logics, child rights, and Welsh educational
reform. Policy Futures in Education, 16(3), pp.251-276.
·
Maslow, A.H., (2000). The Maslow business
reader. John Wiley & Sons.
· Schiro, M., (2012). Curriculum theory: Conflicting
visions and enduring concerns. Sage.
·
Teachers.org.uk.
(2018). National Education Union (NEU) | NUT - The Teachers' Union.
[online] Available at: https://www.teachers.org.uk/ [Accessed 3 Dec. 2018]. Steventon, G 2016, ‘Authentic Learning. A route to
student attainment?’, in: G Steventon, D Cureton and L. Clouder, (eds.),
Student Attainment in Higher Education: Issues, Controversies and Debates, 1st
ed, Routledge, New York.



Comments
Post a Comment